Lleoliad:
Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 7 Tachwedd 2023
Amser:
09.01 -
09.06
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Heledd Fychan Lesley Griffiths AS Darren Millar AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds a David Rees
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
·
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog
Newid Hinsawdd: Diwygio Bysiau (30 munud) I'w gyhoeddi fel Datganiad
Ysgrifenedig
·
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog
Iechyd Meddwl a Llesiant: Diweddariad ar y Cynllun Gweithredu
Dementia (30 munud) - Gohiriwyd
· Datganiad gan Weinidog yr Economi - Parthau Buddsoddi (30 munud)
·
Datganiad gan Weinidog yr Economi:
Cydnabod y cyfraniad y mae digwyddiadau yn ei wneud i Gymru (30
munud) -
Gohiriwyd
·
Datganiad gan Weinidog yr Economi
- Tata Steel (30 munud)
· Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro (5 munud)
· Dadl: Cofio (60 munud)
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.05pm.
Gofynnodd Heledd Fychan pryd y bydd y datganiadau llafar gohiriedig ar y 'Cynllun Gweithredu Dementia' a'r 'cyfraniad y mae digwyddiadau yn ei wneud i Gymru' yn digwydd. Cadarnhaodd y Trefnydd y byddan nhw'n cael eu haildrefnu yn y flwyddyn newydd.
Dydd Mercher
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth am y tair wythnos nesaf:
Dydd Mawrth 14 Tachwedd 2023
·
Datganiad gan Weinidog yr Economi:
Economi Cymoedd y Gogledd (30 munud) - gohiriwyd
· Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Hawliau Plant (30 munud) Symudwyd ymlaen o 21 Tachwedd
· Dadl: Cyfnod 4 Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) (15 munud)
Dydd Mawrth 21 Tachwedd 2023
·
Datganiad gan y Gweinidog Newid
Hinsawdd: Diogelwch Adeiladau (30 munud) - gohiriwyd tan 28 Tachwedd
· Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diwygio'r Flwyddyn Ysgol (30 munud)
·
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog
Gwasanaethau Cymdeithasol: Hawliau Plant (30 munud)
- symudwyd ymlaen i 14
Tachwedd
· Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 a Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2015 (Diwygio) 2023 (10 munud)
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunwyd ar yr ychwanegiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mercher 22 Tachwedd 2023 -
Dydd Mercher 29 Tachwedd 2023 -
4 Unrhyw Fater Arall
Araith y Brenin
Dywedodd y Trefnydd wrth y Pwyllgor Busnes fod y Llywodraeth yn anelu at gyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig yn cynnwys dadansoddiad cynnar o'r eitemau y disgwylir iddynt fod o ddiddordeb i'r Senedd cyn gynted â phosibl yn dilyn Araith y Brenin heddiw.
Cyhoeddi Cwestiynau Brys ac Amserol
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes fod y gwaith datblygu angenrheidiol bellach wedi'i gwblhau ac y bydd yr holl Gwestiynau Brys ac Amserol, o'r wythnos hon ymlaen, yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Cofnod erbyn diwedd yr wythnos y cawsant eu hystyried.
Gofynnodd y Llywydd i’r Rheolwyr Busnes atgoffa eu grwpiau bod y canllawiau diweddaraf ar y Modd Priodol o gynnal Busnes y Senedd, gan gynnwys mewn perthynas â Chwestiynau Amserol, wedi'u cyhoeddi a'u dosbarthu i'r Aelodau ar 20 Hydref.